Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Sign Up for Fishpond's Best Deals Delivered to You Every Day
Go
Tacsi i'r Tywyllwch [Welsh]

Rating
Format
Paperback, 144 pages
Published
United Kingdom, 18 December 2019

Madog, a taxi driver from Bangor, isn't having a very good day. In the morning, he accompanies his mother's body to the crematorium and by the end of the night he will have lost his true love. But where did she go? Why did she disappear? By hiring ex-detective Ian Robertson to look into the matter, Madog uncovers many dark and undesirable secrets.


Our Price
$19.60
Ships from UK Estimated delivery date: 12th May - 19th May from UK
Free Shipping Worldwide

Buy Together
+
Buy together with Stori Sydyn [Welsh] at a great price!
Buy Together
$31.14

Product Description

Madog, a taxi driver from Bangor, isn't having a very good day. In the morning, he accompanies his mother's body to the crematorium and by the end of the night he will have lost his true love. But where did she go? Why did she disappear? By hiring ex-detective Ian Robertson to look into the matter, Madog uncovers many dark and undesirable secrets.

Product Details
EAN
9781785620447
ISBN
1785620444
Writer
Publisher
Age Range
Dimensions
19.5 x 12.8 x 1.6 centimeters (0.13 kg)

Reviews

Bellach, mae Alun Cob wedi hen sefydlu ei hun fel awdur nofelau antur hynod afaelgar, a dilyn yr un trywydd y mae eto yn y nofel Tacsi i’r Tywyllwch. Dyma nofel yn y genre noir sy’n mynd â ni i fyd erchyll dihirod go iawn – byd y gangsters a chymeriadau hynod dreisgar o’r is-fyd sy’n dod i effeithio’n fawr iawn ar fywyd Madog Roberts, y gyrrwr tacsi diniwed o Fangor, sy’n digwydd cael ei lusgo i ganol y cyfan gan ei gariad, Rhiannon. Ar ddechrau’r nofel, cawn ein cyflwyno i Madog ar un o ddyddiau tywyllaf ei fywyd wrth iddo aros i hebrwng corff ei fam i’r amlosgfa ar ddiwrnod ei hangladd. Ond mynd o ddrwg i waeth wnaiff pethau iddo, oherwydd erbyn diwedd y noson, mae Rhiannon hefyd wedi diflannu. Canlyniad hynny yw bod Madog yn treulio gweddill y nofel, er gwell neu er gwaeth, yn ceisio dod o hyd iddi, trwy gymorth Edgar, ei ffrind gorau, a ditectif preifat, gan arwain at y tri ohonyn nhw’n cael eu tynnu i mewn i fyd dychrynllyd pobl y cysgodion. O safbwynt arddull, dyma nofel hynod slic a sydyn y gellid yn hawdd ei darllen ar un eisteddiad, gymaint yw awch y darllenydd i ddod at wreiddyn y stori. Mae dychymyg yr awdur yn eithriadol, yn enwedig wrth iddo ehangu cwmpawd y stori i gyfeirio at rwydweithiau o gangsters rhyngwladol. Rhaid mai Adrian Jordan a Bojan Simonović yw rhai o gymeriadau mwyaf brawychus unrhyw nofel Gymraeg, er bod cynildeb dweud Alun Cob yn ei rwystro rhag ymgolli’n ormodol yn erchylltra’r lladd a’r llofruddio treisgar. O ystyried natur y plot fe allasai fod yn nofel gymhleth, ond mae’r modd y mae’r awdur wedi dewis cyflwyno’r stori ar ffurf penodau byrion, gan seilio bob pennod ar safbwynt cymeriad gwahanol, yn golygu nad felly y mae hi. Gallai’n hawdd weithio fel drama deledu, gyda golygfeydd bachog, sydyn sy’n symud o un cymeriad i’r llall. Caiff y stori ei gyrru yn ei blaen yn drawiadol gan ddawn dweud a chyfoesedd crefftus Alun Cob, gan ddwyn i gof arddull nofelau pulp fiction Americanaidd. Serch hynny, wrth nesáu at ddiwedd y nofel, ro’n i, fel darllenydd, yn teimlo braidd yn bryderus. A’r stori’n cyrraedd uchafbwynt hynod gyffrous a gwaedlyd, ro’n i’n dechrau rhedeg allan o dudalennau ac yn pryderu na fyddai’r awdur yn gallu dirwyn ei stori i ben mewn modd digon cyflawn a boddhaus. Ac felly yn union y digwyddodd pethau. Heb os, fe ddaeth y nofel i ben yn rhy sydyn o lawer. Mae’r diweddglo, yn bendant, yn destun rhwystredigaeth am nad yw’r awdur wedi llwyddo i ddatgelu digon am yr hyn sydd wedi digwydd i’r cymeriadau dan sylw. Ond hyd yn oed wedyn, mae’r nofel yn werth ei darllen petai ond am y stori antur afaelgar, gan obeithio na fyddwch chi’n rhy siomedig erbyn i chi gyrraedd y dudalen olaf!
*Sioned Lleinau @ www.gwales.com*

Show more
Review this Product
Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top