Hurry - Only 4 left in stock!
|
Here is the first book in the Mêts Maesllan series. The series follow the adventures and interests of a lively group of friends - Mim, Ben, Sam, Wil (and Bob the dog) who lives in Maesllan. The series includes a pack of 32 cross-curricular books that includes some fictional, some factual and some on the form of rhyme.
Here is the first book in the Mêts Maesllan series. The series follow the adventures and interests of a lively group of friends - Mim, Ben, Sam, Wil (and Bob the dog) who lives in Maesllan. The series includes a pack of 32 cross-curricular books that includes some fictional, some factual and some on the form of rhyme.
Here is a series of books to help children in Key Stage 2 who have
specific learning difficulties in mastering literacy in Welsh. The
series centre on phonetic and linguistic patterns based on 'O Gam i
Gam' (Griffith, updated by Thomas and Jones, 2009) and Ffynhonnell
Eirfaol (Hughes, 1978).
The books are relatively short, between 16 and 28 pages, to attract
the interest of those children who are usually reluctant to read.
There is a special website for the the series;
www.canolfanpeniarth.org/metsmaesllan, which includes digital and
paper activities to accompany each book to reinforce vocabulary and
language patterns presented.
The books and activities have been graded at 4 levels to develop
reading skills and each one builds on the previous level.
*Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth*
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2
sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli lythrennedd yn y
Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau
iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan
Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonnel Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r llyfrau yn lyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb
y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan
arbennig, www.canolfanpeniarth.org/metsmaesllan ar gyfer y gyfres
sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob
llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.
Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er
mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel
flaenorol.
Lefel 1 (glas) - 6 llyfr yn canolbwyntio ar eiriau
cytsain/llafariad/cytsain; Geirfa Lefel 1: Cytseiniaid unigol;
llafariaid byr; llafariaid hir; geiriau c-ll-c yn bennaf; geiriau
allweddol:a'i, a'r, ei, i'r, i'w, mynd, o'r, wedi, y, yn, yna, yr.
Treigladau Lefel 1: Ambell dreiglad meddal p-b, t-d, c0g, b-f, m-f;
ambell dreiglad trwynol b-m, d-n; Cystrawen Lefel 1: Brawddegau
byr, un cymal; ailadrodd cyson; cysylltair 'a'i gysylltu enwau e.e.
Sam a Mim sillgoll 'r, 'n; amser presennol y ferf - dyma, mae, ydw,
ydy/yw, dydw, dydy, oes; gorchmynion syml - cod, cer
Lefel 2 (gwyrdd) - 8 llyfr yn canolbwyntio ar lythrennau dwbl e.e.
ff, ch, rh; Geirfa Lefel 2: Geiriau unsill gyda chytseiniaid clwm,
e.e. dant, cefn, ofn; llythrennau dwbl - ch, dd, ll, th, rh, ng,
ff, si, ph; geiriauamlsillafog - deusill yn bennaf. Treigladau
Lefel 2: Treiglad meddal; treiglad trwynol; dechrau cyflwyno'r
treigladau llaes. Cystrawen Lefel 2: Brawddegau cytbwys - dau gyma;
defnydd o gysyllteiriau - a, ond; peth ailadrodd; amser amherffaith
y ferf.
Lefel 3 (oren) - 7 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o
gytseiniaid Geirfa Lefel 3: Cytseiniaid Clwm; geiriau amlsillafog,
e.e. aderyn, anifieiliaid, anhygoel Treigladau Lefel 3: Treiglad
Llaes Cystrawen Lefel 3: Brawddegau hirach a chystrawen ychydig yn
fwy cymhleth; ailadrodd patrymau llai cyfarwydd; ffurf gryno'r ferf
yn yr amser gorffennol - 3ydd person yn bennaf, e.e. gwelodd,
cafodd, clywodd; amser dyfodol - byddaf, bydd.
Lefel 4 (coch) - 10 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o
lafariaid. Geirfa Lefel 4; Geirfa yn hytrach na thestun mwy heriol;
llafariaid clwm, e.e. traed, dwylo, gwyn, Korea; dyblu 'n' a 'r';
geiriau lluosog gyda llafariaid clwm, e.e. ffeithiau, streipiau,
mynyddoedd. Treigladau Lefel 4: Treiglo'n ehangach. Cystrawen Lefel
4: Brawddegau mwy cymhleth; defnydd helaeth o briod-ddulliau; ffurf
gryno'r ferf yn y gorffennol, e.e. gwelais, rhedais; ffurf
amhersonol gorffennol, e.e. darllenwyd, penderfynwyd; cymharu
ansoddeiriau - y radd eithaf; rhedeg arddodiad.
******************************* Nod y pecyn: - hybu diddordeb mewn
llyfrau a mwynhad wrth ddarllen; - cyflwyno adnoddau darllen sy'n
apelio at fechgyn yn ogystal â merched; - cyflwyno'r plant i
ddeunydd darllen sydd â diwyg diddorol a chyfoes; - datblygu
sgiliau'r plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol a'r rhai
sy'n profi anawsterau cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau darllen
yng Nghyfnod Allweddol 2 yn bennaf; - cyflwyno rhai llyfrau sy'n
addas ar gyfer brig y Cyfnod Sylfaen ac wrth bontio i Gynfod
Allweddol 3 gan ddibynnu ar lefel sgiliau darllen yr unigolyn; -
darparu amrwyiaeth o wahanol ffurfiau o destun gan ynnwys llyfrau
ffeithiol sy'n ddefnyddiol ar gyfer pob disgybl yn y dosbarth
oherwydd natur y testun; - darparu llyfrau a gweithgareddau i annog
cwestiynu pellach gan oedolion er mwyn datblygu sgiliau meddwl.
*Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |