Maer llyfr hwn yn rhan o gyfres o lyfrau deniadol a rhwydd iw darllen ac yn denu darllenwyr ifainc Cymraeg. Dyna fy marn i darllenydd deg oed. Heb os, dyma lyfr syn addas ar gyfer plant rhwng chwech ac wyth oed ac maen addas i fechgyn a merched. Prif gymeriad Drip Drip yw Max plentyn naw oed sydd eisiau bod yn blwmwr fel ei arwr, Wncl Al. Yng nghwmni ei ewythr maen helpu pawb yn y pentre a diolch iddo ef, maer gm bl-droed hynod o bwysig yn gallu mynd ymlaen ar l ir pyst gael eu torri gan wartheg afreolus ... ond sut? Llyfr doniol, rhwydd iw ddarllen, ydy hwn mae llawer o ddeialog ynddo, syn gwneud i bethau symud yn gyflym iawn. Maer lluniau yn y llyfr hwn yn eithriadol o dda yn hynod o liwgar a chartwnaidd. Hoffwn nodi hefyd fy mod yn falch fod y Cynulliad yng Nghymru wedi cefnogi cynhyrchur llyfr hwn mae hynny yn ehangu y dewis sydd ar gael i ni Gymry Cymraeg. Thomas Huw Constantine Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |