Ffrwydrodd yr enfant terrible Llwyd Owen ar y byd llenyddol Cymraeg yn 2006 gyda Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, ei nofel gyntaf gignoeth i hiaith goch ai chymeriadau annymunol cyfrol wahanol iawn i'r nofel draddodiadol Gymraeg. Erbyn hyn, ac yntaun agosu at ganol oed, mae ei ddicter, o bosib, wedi pylu ryw ychydig ac efallai ei bod yn anodd i unrhyw awdur gadwr fath fin ac angerdd chwyrn dros gyfnod hir o amser. Ond, o ddechraur nofel hon, mae ochr ddychanol Llwyd, ei hiwmor ai awydd i roi pin go finiog yn swigen y pwysigion, yn enwedig pwysigion Cymraeg, yn dal yn amlwg. Maen nhwn dweud y dylai awdur ddechrau wrth ei draed, a nofel yw hon am nofelydd or enw Llwyd Owen syn cael ei adnabod fel enfant terrible nofelau Cymraeg ... ond mae Llwyd y nofel wedi profi llwyddiant byd-eang gyda nofelau poblogaidd Saesneg dan yr enw Floyd Ewens. Mae ysgrifennu am nofelydd Cymraeg yn rhoi cyfle i Llwyd yr awdur drafod y byd llenyddol yng Nghymru, gan dynnu ambell flewyn o sawl trwyn. Rhan fwyaf doniol y nofel ywr penwythnos anffodus lle mae Llwyd yn ei gael ei hun yn cynnal cwrs ysgrifennu creadigol yng nghanolfan Ty Newydd, a cheir golygfa gofiadwy wrth iddo groesawur darpar-lenorion, golygfa fydd yn peri i sawl un wingo. Ond er y bydd caredigion llenyddiaeth yn gwenu ar hyn, cyfeiriadau wrth fynd heibio, neu gefndir ir nofel, ywr byd llenyddol ar y cyfan. Prif storir gyfrol yw cyfeillgarwch Llwyd dau fachgen wrth iddo dyfu i fyny. Maer Llwyd ifanc yn fachgen swil, clyfar, syn cael ei fwlio yn yr ysgol gynradd nes daw bachgen newydd i ymuno r dosbarth. Maer nofel yn torrin l a blaen rhwng y presennol a hanes blaenlencyndod y bechgyn, a dawn amlwg fod Llwyd yn teimlo fod ganddo ddyled foesol i un oi gyfeillion, a goblygiadaur ddyled honno syn arwain y stori. Cryfder Llwyd Owen yw ei arddull. Maen ysgrifennun rhwydd ac yn amrwd iawn ar adegau, ond mae hynnyn gweddu ir cymeriadau ar math o stori yw hi. Maen mwynhau treiddio i isfyd anghyfforddus a gadael i bethau digon annymunol ddigwydd iw gymeriadau. Dyw cymeriad Llwyd yn y nofel ddim yn hoffus o gwbl maen ddiog ac yn hunanol a dywr darllenydd ddim yn closio ato, ond mae hynny eton nodweddiadol oi wrtharwyr yn ogystal r cymeriadau eraill. Mae cyffuriau a rhyw yn chwarae rhan bwysig iawn yn y stori, ac maen amlwg fod Llwyd yr awdur yn mwynhau ysgrifennu am y pethau hyn, ir graddau fod perygl y gallai fynd yn syrffedus ar l ychydig. Wn i ddim a oes gen i gymaint hynny o ddiddordeb yn yr hyn y mae bechgyn yn eu harddegaun ei wneud chyffuriau a rhyw wrth dyfu fyny, ond mae gen i well syniad erbyn diwedd y nofel. Ond er yr hoffwn i fod wedi darllen mwy o ddychan am y byd llenyddol neur sefydliad Cymraeg, a llai am bechodaur corff, mi gadwodd y stori ar arddull fy niddordeb hyd at y diwedd anochel. Catrin Beard Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |