The year is 2050. Wales is in trouble. The Bay is drowning; the Senedd is sinking and the quarries are being used to eradicate the memories of the people of Wales. Anglesey has long disappeared from the map. Wales's new name is South West Britain. Overground highways are being built everywhere so that Wales can be completely by-passed.

Dyma lyfr antur go iawn, gyda map deniadol ar y tudalennau cyntaf i ddenu darllenwyr ifanc! Stori Llwyd yw hon, bachgen amddifad syn gorfod teithio trwyr Hudfyd yng nghwmni ei ffrind, Arddun Gwen, er mwyn dod o hyd i'r Brenin Arthur. Mae angen achub Cymru ar Meidrolfyd rhag cynlluniau dieflig Gedon Ddu. Ar y daith rydyn nin cwrdd ag amryw o gymeriadau rhyfedd a difyr - Rhitw Bitw y corrach, a Heti Hylldrem ac Wdull, syn hanner dyn, hanner pry llwyd. Cawn frawddegau disgrifiadol hyfryd yn y gwaith hwn ar adegau, ynghyd digon o antur. Maen nofel syn clodfori dewrder ac angerdd, nodweddion amlwg yng mhersonoliaeth Llwyd. Dyma fy hoff gymeriad or stori, yn fachgen syn datblygu trwy bob pennod. Mae Gedon Ddu yn peri i'r Cymry golli eu cof a'u hiaith, ac i'w drechu rhaid dod o hyd i'r allwedd aur, sef allwedd calon Cymru, a mynd a hi i'r Senedd ym Mae Caerdydd. Teimlais fod yr isdestun gwleidyddol hwn braidd yn chwithig ar brydiau, ac yn effeithio ar rediad y stori, ond maen bosib mai darllen o safbwynt oedolyn sinicaidd oeddwn i, yn hytrach nag fel plentyn 7-11 oed! Cerian Arianrhod Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |