Maer gyfres hon, dros nifer o flynyddoedd bellach, wedi rhoi cyfle
i ymchwilwyr profiadol a newydd rannu canlyniadau eu gwaith. Dymar
bedwaredd gyfrol ar bymtheg ac, fel nifer oi rhagflaenwyr, maen
cynnwys amrywiaeth o bynciau yn ymestyn dros bum can mlynedd o
hanes Cymru. Maer gyfrol ddiweddaraf yn cynnwys chwe ysgrif: *
Hanes cerdd dant yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol (Sally Harper) *
Catholigion alltud o Gymru au cyswllt âr Eidal yn yr unfed ganrif
ar bymtheg (Angharad Price) * Achos Gwen Ferch Ellis, dewines a
ddienyddiwyd yn 1594 (Richard Suggett) * Yr anterliwtiau cynnar
(Ffion Mair Jones) * Hanes perchenogion llongau Cymreig Caerdydd,
yn arbennig yn ystod oes aur yr allforio glo (David Jenkins) *
Delweddaur glöwr Cymreig ar ffilm 19351951 (Gwenno Ffrancon)
Byddai'n amhosibl gwneud cyfiawnder âr cyfraniadau hyn mewn
adolygiad cymharol fyr, ond i adolygydd sydd ond yn gwybod ychydig
am rai or meysydd uchod maer ymdriniaeth or pynciaun ddifyr.
Mae dyfnder yr ymdriniaethau hefyd yn debygol o apelio at
gynulleidfa mwy hyddysg ac arbenigol. Mewn geiriau eraill, mae
llawer yn y gyfrol all apelio at gynulleidfa eang. A dilyn mympwyr
adolygydd, hoffwn dynnu sylw at ysgrif Dr Gwenno Ffrancon syn
canolbwyntio ar gyfres o ffilmiau yn ymwneud âr glöwr Cymreig
rhwng 1935 a 1951. Datgelir ffeithiau diddorol am awduron Richard
Llewellyn (How Green Was My Valley) ac A. J. Cronin (The Citadel)
yn bennaf ac am gynhyrchwyr y ffilmiau, King Vidor a John Ford.
Maer sylwadau am Emlyn Williams, Paul Robeson ac Amanwy hefyd yn
agoriad llygad. Bu dylanwad rhamanteiddio ac Americaneiddio yn
enghreifftiau cynnar o globaleiddio gan ddefnyddio cyfrwng a dyfodd
yn boblogaidd dros y cyfnod, er bod y gwylwyr yn dioddef mewn
'cytiau chwain', chwedl yr awdur. Er bod ysgrif David Jenkins yn
canolbwyntio ar berchenogion llongau Cymreig Caerdydd, diddorol yw
olrhain hanes rhai or cwmnïau a ddaeth yn flaenllaw iawn yn hanes
datblygiad y porthladd. Roedd man cychwyn nifer ohonynt mewn
lleoliadau eraill yng Nghymru Aberystwyth a phorthladdoedd Llŷn
yn bennaf ar lleoliadau hyn yn parhaun bwysig fel mannau
cofrestredig y cwmnïau er bod y masnachun digwydd yn gyfan gwbl
trwy borthladd Caerdydd. Bu rhai unigolion yn ddylanwadol iawn yn
gwerthu cyfranddaliadau yn y cwmnïau hyn; yn eu plith y Parchedig
John Cynddylan Jones o Gapel Dewi, ger Aberystwyth. Buddsoddwr
amlwg yn y mentrau hyn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru
Aberystwyth ar y pryd. Fel syn amlwg, mae llawer iw gymeradwyo yn
y gyfrol hon. Cynhwysir llyfryddiaeth ar ddiwedd pob ysgrif a
gwneir defnydd da o luniau. Serch hynny, mae pob ysgrif yn dalp go
solet o ysgrifennu, a buddiol efallai ir darllenydd fyddai gweld
mwy o raniadau o fewn yr ysgrifau gan ddefnyddio cyfres o
is-benawdau.
*Richard H. Morgan @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |