Cyfrol o gerddi amrywiol yn ymdrin yn bennaf theimladau a geir yma. Trwy gyfrwng cerddi gan wahanol feirdd, a rhai wedi'u hysgrifennu gan ddosbarthiadau o blant, cawn ein tywys i sefyllfaoedd cyfarwydd beth bynnag foch oedran. Ceir yr ysgafn ar difrifol, yr ansicrwydd ar gorfoledd, y cyffro ar tristwch ochr yn ochr. Byd yr Eisteddfod a chystadlu, gorfoledd sgorio gl, yr ofn o wynebu bwli a gwacter colli perthynas agos yw cynnwys rhai or cerddi syn cael eu cyflwyno mewn modd ysgafn ond ystyrlon. Yn naturiol, oherwydd y gwahanol feirdd, mae arddull, iaith, cynnwys a safbwynt y cerddi yn amrywio'n fawr ac mae hyn yn ychwanegu at gryfder y gyfrol. Braf hefyd yw gweld defnydd o dafodiaith o fewn y gyfrol, ac maer cynnwys yn bendant yn mynd i ennyn diddordeb y darllenwyr ifanc gan y byddant yn medru uniaethu nifer helaeth or sefyllfaoedd ar teimladau. Maen gyfrol syn gwneud barddoniaeth yn gyfrwng cyffrous a diddorol ac mae ei chynnwys yn berthnasol ir darllenwyr. Yn ogystal, mae'r gyfrol yn fodd i ymdrin a deall sefyllfaoedd a theimladau'n well. Ffion Bowen Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |